Gwasanaeth gwybodaeth am ddim gan ddarparwyr allanol
Mae RBDigital Comics: Library Edition yn rhoi’r gallu i chi weld miloedd o nofelau graffig a llyfrau comig digidol ar unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r We. Mae mwy na 93 o gyhoeddwyr a dewis o fwy na 16,000 o nofelau graffig a llyfrau comig.
Mae’n eich galluogi i weld mwy na 10 miliwn o erthyglau academaidd o fwy nag 8,000 o gyfnodolion ar amrywiaeth fawr o bynciau, yn cynnwys celfyddyd, pensaernïaeth, busnes, peirianneg, hanes, ieithoedd, gwleidyddiaeth, athroniaeth, mathemateg a’r gwyddorau.
Gallwch weld crynodebau o erthyglau gartref, ond rhaid i chi ddod i’r llyfrgell i lawrlwytho’r fersiwn lawn.
Adnodd hanes teuluol sy’n cynnwys cofnodion o’r DU a gwledydd tramor fel cyfrifiadau, cofnodion o enedigaethau, priodasau a marwolaethau, cofnodion plwyf a llawer mwy.
Adnodd hanes teuluol sy’n cynnwys cyfrifiadau, cofnodion o enedigaethau, priodasau a marwolaethau, cofnodion plwyf, cofnodion milwrol, teithio ac ymfudo, a phapurau newydd.
Dewis Cymru yw’r lle i fynd i gael gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu i gael gwybod sut y gallwch helpu rhywun arall.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig amrywiaeth fawr o adnoddau electronig drwy danysgrifio, yn amrywio o gyfnodolion ysgolheigaidd i wyddoniaduron a phapurau newydd.
Cannoedd o gyrsiau ar-lein am ddim yn cynnwys siopa ar y Rhyngrwyd, cyflogadwyedd, hanes, cynorthwyo’ch plant, mathemateg, ieithoedd, gwyddoniaeth a llawer mwy.
Bob tro y bydd arnoch angen gwybod ystyr gair neu sut i’w ynganu, sut i’w gyfieithu i iaith arall, neu a ydych yn ei ddefnyddio’n gywir, dylech droi at y wefan hon gyntaf. Mae’n cynnwys diffiniadau o eiriau Saesneg a’u cyfystyron, gramadeg ac arfer Saesneg a geiriaduron mewn ieithoedd eraill.
Mae Theory Test Pro yn cynnwys cronfa o’r holl gwestiynau mewn profion swyddogol, clipiau fideo ar rag-weld peryglon a fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr.
Canllaw gam wrth gam syml sy’n rhoi sylw i:
- Credyd Cynhwysol – y broses a sut i ymgeisio
- Dod o hyd i swydd – dysgu sgiliau cyfrifiadur syml, sut i chwilio am swyddi, creu CV a’i lanlwytho
- Cyflogadwyedd a Sgiliau Swyddi – sgiliau cyf-weld a pharatoi am swydd newydd.
Gwefan llyfrgelloeddcymru.org yw’r lle i gyrraedd dewis anhygoel o adnoddau am lyfrgelloedd yng Nghymru – gallwch ddod o hyd i’ch llyfrgell leol, lawrlwytho e-lyfrau ac e-gronau, cael gwybod am ein hymgyrchoedd diweddaraf a llawer mwy.